Cynllun Datblygu Lleol Amnewid Casnewydd
Bydd y cynllun hwn yn dangos sut bydd datblygu a defnydd tir yn cael ei lunio yng Nghasnewydd tan 2036. Rydym yn awyddus i gael adborth gan holl gymunedau Casnewydd wrth i ni baratoi’r cynllun.
Bydd y cynllun hwn yn dangos sut bydd datblygu a defnydd tir yn cael ei lunio yng Nghasnewydd tan 2036. Rydym yn awyddus i gael adborth gan holl gymunedau Casnewydd wrth i ni baratoi’r cynllun.
Mae Cynllun Datblygu Lleol yn dangos sut y dylid defnyddio tir a sut dylai datblygu ddigwydd mewn ardal dros gyfnod penodol o amser. Unwaith bydd cynllun wedi ei fabwysiadu, bydd yn hysbysu pob penderfyniad cynllunio mewn ardal.
Adolygir y cynllun bob blwyddyn. Yn 2020, cytunwyd y dylid paratoi cynllun amnewid.
Byddwn yn mynd trwy nifer o gamau i baratoi’r cynllun – bydd yn cymryd tua 3 i 4 blynedd i’w baratoi.
Mae’r canlynol yn disgrifio’r camau sy’n rhaid i Gynllun Datblygu Lleol nodweddiadol fynd trwyddo er mwyn ei baratoi.
Cliciwch ar yr eiconau ‘+’ i gael mwy o wybodaeth am bob cam.
Edrychodd yr Adroddiad Adolygu ar y Cynllun Datblygu Lleol presennol, beth oedd wedi newid yng Nghasnewydd a’r newidiadau i’r system gynllunio ers ei fabwysiadu. Mae’r Adroddiad Adolygu yn archwilio beth sy’n gweithio’n dda a beth sy’n rhaid ei newid mewn cynllun amnewid newydd.
Gallwch lawrlwytho’r Adroddiad Adolygu yma (pdf)*
Mae’r Cytundeb Cyflawni yn nodi sut a phryd y bydd y cynllun newydd yn cael ei baratoi. Mae’n cynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau ac amserlen sy’n anelu at gyflawni’r cynllun erbyn mis Chwefror 2026.
Mae’r Cytundeb Cyflawni gwreiddiol a fabwysiadwyd ym mis Mai 2021 wedi’i ddiwygio a chymeradwywyd y cytundeb cyflawni newydd gan Lywodraeth Cymru ar 24 Ionawr 2023.
Mae’r Cytundeb Cyflawni: Adolygiad Cyntaf i’w weld yn:
https://www.newport.gov.uk/documents/Planning-Documents/Replacement-Local-Development-Plan-2021/LDP-Delivery-Agreement-1st-Revised-Edition-2023.pdf
a gellir dod o hyd i lythyr cymeradwyo Llywodraeth Cymru yn:
https://www.newport.gov.uk/documents/Planning-Documents/Replacement-Local-Development-Plan-2021/Newport-LDP-1st-Revision-DA-Agreement-Letter-Sent-24.01.23.pdf
Rhwng Mehefin ac Awst 2021, gwahoddwyd tirfeddianwyr, datblygwyr ac aelodau’r cyhoedd i gyflwyno safleoedd posibl i’w cynnwys yn y cynllun amnewid. Adwaenir y safleoedd hyn fel ‘Safleoedd Ymgeisiol’ a chânt eu hystyried fel safleoedd posibl yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.
Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghoriad Galw am Safleoedd Posibl o 30 Mehefin i 27 Awst 2021. Mae’r cyfnod ymgynghoriad hwn nawr wedi cau.
Cyhoeddir Cofrestr Safleoedd Posibl yn y cam Strategaeth a Ffefrir (i’w ddisgwyl yn yr Hydref 2022).
Gallwch gael mwy o wybodaeth yma.
Os hoffech gael gwybod sut mae Cynllun Datblygu Lleol Amnewid Casnewydd yn dod yn ei flaen, yn cynnwys digwyddiadau ymgynghoriad ac ymgysylltiad, byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen isod.
Os byddai’n well gennych, gallwch gysylltu â ni un ai ar: